SL(6)371 – Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Diwygio) 2023

Cefndir a diben

Mae Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010 (“Rheoliadau 2010”) yn darparu ar gyfer sefydlu Tribiwnlys Prisio Cymru (“TPC”), ei aelodaeth a’i weinyddiaeth, yn ogystal â'r gweithdrefnau ar gyfer apelau treth gyngor.

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn dribiwnlys annibynnol sy’n datrys anghydfodau yn ymwneud â phrisio eiddo ar gyfer ardrethi annomestig, y dreth gyngor a chyfraddau draenio.

Mae'r Rheoliadau hyn (“Rheoliadau 2023”) yn diwygio Rheoliadau 2010 ac yn gwneud newidiadau mewn perthynas â gweinyddu Cyngor Llywodraethu TPC, ei delerau aelodaeth a gweinyddu apelau treth gyngor. 

Diben Rheoliadau 2023, fel yr eglurir yn y Memorandwm Esboniadol, yw helpu TPC i foderneiddio ei arferion gweinyddol a chynnal aelodaeth gynaliadwy o’r tribiwnlys.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 11 yn nodi ei fod yn hepgor darpariaeth o reoliad 46(11) o Reoliadau 2010.

Mae'r ddarpariaeth sydd i’w hepgor wedi’i nodi’n anghywir fel “paragraff (a)”. Fodd bynnag, y disgrifiad cywir yw “is-baragraff (a)”.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae Rheoliad 12(b) yn nodi ei fod yn diwygio paragraff 12(a) o Atodlen 2 i Reoliadau 2010.

Mae lleoliad y diwygiad wedi’i nodi’n anghywir fel “ar ddiwedd paragraff 12(a)”. Mae paragraff 12(a) hefyd yn cwmpasu paragraffau 12(a)(i) a 12(a)(ii).  Felly, mae “diwedd” paragraff 12(a), mewn gwirionedd, ar ddiwedd paragraff (ii). 

Mae’r llinell doriad em hir y mae’n ymddangos bod y gwelliant yn ceisio ei nodi i’w weld “ym mharagraff 12(a), ar ddiwedd y geiriau o flaen paragraff (i)” (gweler Drafftio Deddfau i Gymru 7.11(3)).

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

3.    Rheol Sefydlog 21.3(vi) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Cynhaliwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â Rheoliadau 2023.  Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi’i gynnwys yn y Memorandwm Esboniadol ac yn nodi’r manteision a ganlyn o wneud Rheoliadau 2023:

[…] cynnal aelodaeth gynaliadwy o’r tribiwnlys a chadw aelodau profiadol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau nad amherir ar y gwasanaeth y mae TPC yn ei ddarparu […].

Bydd Cyngor Llywodraethu TPC yn gweithredu’n fwy effeithiol, gyda newidiadau i helpu i atal swyddi gwag ac absenoldebau rhag rhwystro busnes arferol a phenodiadau.  Bydd galluogi unrhyw aelod i gael ei ystyried i gael ei ethol yn gynrychiolydd cenedlaethol yn helpu i sicrhau nad yw penodiadau’r dyfodol yn cael eu cyfyngu’n ormodol.

Bydd trefniadau ynghylch gwrandawiadau apelau treth gyngor yn elwa ar welliannau a wnaed eisoes mewn perthynas ag ardrethu annomestig, gan sicrhau cysondeb yn y dull gweithredu, pan fo hynny’n briodol. Mae gallu cynnal gwrandawiadau cwbl rithwir yn faes pwysig ar gyfer cysondeb, o ran moderneiddio gweithrediadau TPC.

4.    Rheol Sefydlog 21.3(vi) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Daeth Rheoliadau 2023 i rym ar 2 Awst 2023, yn ystod toriad haf y Senedd.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â’r ddau bwynt adrodd technegol yn unig.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

01 Medi 2023